Loading translations… loading
Home Newsletters May 2010 Garddio er budd bywyd gwyllt Sir Gaerfyrddin

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Garddio er budd bywyd gwyllt Sir Gaerfyrddin PDF Print E-mail

Yn ystod yr haf eleni mae Adain Gadwraeth y Cyngor a'i phartneriaid yn ceisio cymell pobl i feddwl sut maent yn garddio, ac i wneud rhywbeth cadarnhaol er budd bywyd gwyllt yn eu gerddi. Nod y prosiect yw:

  • cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dulliau garddio er budd bywyd gwyllt o ran cynnal bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin,
  • crynhoi gwybodaeth sylfaenol am y bywyd gwyllt sydd yn ein gerddi ac am y modd y mae pobl yn garddio yn y sir,
  • cymell pobl i ymrwymo i gynnwys nodweddion sy'n fuddiol i fywyd gwyllt yn eu gerddi - er enghraifft, byrddau bwydo adar, blychau nythu i adar, blychau i ystlumod, pentyrrau o foncyffion, peidio â thorri'r lawnt gyfan yn rheolaidd, tyfu planhigion sy'n gyforiog o neithdar, ac yn y blaen.

Amcangyfrifir bod 15 miliwn o erddi ym Mhrydain, gan ymestyn dros 270,000 hectar – sydd yn ddarn anferth o dir a gallai'r tir hwnnw fod o werth amhrisiadwy i fioamrywiaeth. Gyda'i gilydd mae'r holl erddi, boed yn fach neu'n fawr, yn ffurfio clytwaith o gynefinoedd i fywyd gwyllt. Gallwch chi gyfrannu at warchod a hybu bioamrywiaeth drwy gymryd rhai camau bach, er enghraifft gallech neilltuo llecyn bywyd gwyllt lle mae chwyn yn cael llonydd a lle mae pren yn cael ei adael i bydru gan sicrhau bod bwyd a chynefinoedd addas ar gael i anifeiliaid di-asgwrn-cefn, neu gallech greu pwll bywyd gwyllt. Mae hyd yn oed newid bychan yn gallu bod yn fawr ei effaith (gweler yr erthygl am fawn yn y rhifyn hwn) a gallwn wneud gwahaniaeth go iawn gyda'n gilydd.

Gallwch gael copïau o'r arolwg a'r ffurflenni ymrwymo drwy gyrchu ein gwefan sef www.carmarthenshirebiodiversity.co.uk Bydd pob un sy'n gwneud yr ymrwymiad hwn yn cael sticer "Rwy'n un o Arddwyr Bywyd Gwyllt Sir Gaerfyrddin"!