Loading translations… loading
Home Newsletters May 2010 Rhoi'r gorau yn raddol i ddefnyddio compost mawn

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Rhoi'r gorau yn raddol i ddefnyddio compost mawn PDF Print E-mail

Black Bog AntMae Hilary Benn, sef Ysgrifennydd yr Amgylchedd, wedi galw am roi'r gorau yn raddol i ddefnyddio mawn mewn compost fel rhan o'r ymgyrch LLEIHAU CO2 ddiweddaraf.

Byddai hyn yn golygu y byddai canolfannau garddio a siopau crefftau’r cartref yn rhoi'r gorau i werthu compost mawn i arddwyr amatur cyn pen deng mlynedd ac yn hytrach yn gwerthu compost di-fawn.

Mae'r ymgyrch LLEIHAU CO2 yn targedu garddwyr amatur, gan taw'r rhain sy'n defnyddio'r rhan fwyaf o ddigon o'r mawn (tua 70%) a ddefnyddir ym myd garddwriaeth. Mae'r ymgyrch yn hoelio sylw ar gynyddu ymwybyddiaeth pobl o effeithiau amgylcheddol defnyddio mawn, ac yn hybu defnyddio compost di-fawn er mwyn lleihau'r gollyngiadau carbon deuocsid ac er mwyn diogelu bioamrywiaeth a bywyd gwyllt cyforgorsydd (lle cloddir am fawn ar gyfer garddwyr).

Mae cloddio am fawn i'w ddefnyddio mewn compost yn achosi difrod mawr i'r amgylchedd drwy ddinistrio cynefinoedd naturiol pwysig a thrwy ryddhau carbon deuocsid (CO2) i'r awyrgylch gan gyfrannu at newid yr hinsawdd. Gollyngir tua hanner miliwn tunnell fetrig o garbon deuocsid i'r awyrgylch bob blwyddyn yn sgil cloddio am fawn ar safleoedd ym Mhrydain, ac nid yw hyn yn rhoi sylw i'r ffaith ein bod yn mewnforio mwy na 50% o'n mawn o dramor.

Garddwyr amatur yw'r defnyddwyr pennaf o ddigon, gan ddefnyddio mwy na dwy filiwn metr ciwbig o fawn bob blwyddyn. Un o'r ffyrdd symlaf, a'r ffordd fwyaf effeithiol, y gall pobl gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a lleihau eu hôl troed carbon yw defnyddio cynhyrchion di-fawn yn y cartref ac yn yr ardd.

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch Defra i LEIHAU CO2  drwy beidio â defnyddio mawn, ac i ddysgu rhagor am fanteision defnyddio compost di-fawn wrth arddio gweler - www.direct.gov.uk/buyingcompost

Yn Sir Gaerfyrddin mae gennym gyforgorsydd a chorgorsydd ar lawr gwlad.  Mae'r cynefinoedd hyn wedi cael eu ffurfio dros filoedd o flynyddoedd. Dros y cyfnod hwn mae'r mawn yn gallu cyrraedd 10 metr neu ragor o drwch, gan gynnal amrywiaeth o blanhigion arbenigol. Yn ogystal mae amrywiaeth o adar a nifer o anifeiliaid di-asgwrn-cefn prin yn gysylltiedig â'r cynefinoedd hyn. Ond ni ellir byth ail-greu'r cofnod mawn hwn ar ôl iddo gael ei ddinistrio.

 

Mae cyforgorsydd yn ymffurfio ar dir dyfrlawn ar lawr gwlad megis ym mhen isaf aberoedd, ar orlifdiroedd, ac mewn pantau. Mae Sir Gaerfyrddin yn ardal bwysig o ran y math hwn o gynefin, gan fod tair cyforgors gymharol gyfan yn y sir. Enghraifft dda o'r math hwn o gynefin yw Cors Goch, Llanllwch, i'r gorllewin o Gaerfyrddin, sy'n safle pwysig. Yn wir mae nifer o bethau prin megis andromeda'r gors, a gwlithlys pryfysol yn y Gors Goch. Mae’r gors hon yn un o'r ychydig safleoedd yng Nghymru lle mae mursennod bach coch a chriciaid hirgorn y gors yn byw, ac yn un o'r ychydig safleoedd ym Mhrydain lle mae morgrug du'r gors i'w cael.

 

Hefyd ceir esiampl ddirywiedig yng Ngors-las, esiampl sydd wedi ei difrodi (yn sgil cloddio) i'r gogledd o'r Hendy, a dwy i'r de-orllewin o Gaerfyrddin  – gan gynnwys cors fechan (Beacon Bog) ger Llangynog.

 

Mae gorgorsydd yn gynefin prin yn fyd-eang. Ffurfir y rhain lle mae mawn yn crynhoi wrth i blanhigion bydru'n araf dan amodau dyfrlawn. Dengys astudiaethau fod y rhan fwyaf o orgorsydd Prydain wedi dechrau cael eu ffurfio rhwng 5000 a 6000 o flynyddoedd yn ôl.

 

Ond bellach bu newid o ran natur llawer o orgorsydd Sir Gaerfyrddin ac yn sgil hynny nid ydynt mwyach yn creu mawn. Dengys data'r arolwg fod ardaloedd cyfan o orgorsydd yn bod o hyd, ond erbyn hyn bod llawer mwy o gorsydd gwlyb a chorsydd sych adnewidiadol yn y sir. Mae llawer o'r llystyfiant hwn yn yr ucheldir yng ngogledd Sir Gaerfyrddin.

 

Gan fod carbon yn cael ei ddal yn y mawn, mae'r cynefinoedd hyn a chynefinoedd mawnog eraill yn hollbwysig wrth inni ymateb i'r newid yn yr hinsawdd. Pam na helpwch chi i warchod y cynefinoedd pwysig hyn drwy ymrwymo i beidio â defnyddio cynhyrchion mawn!