|
Y gaeaf oer yn denu lliaws o fôr-hwyaid duon i Fae Caerfyrddin |
|
|
|
|
Yn ystod y gaeaf daeth heidiau o fôr-hwyaid duon i Fae Caerfyrddin – yn wir daeth mwy o lawer nag erioed o’r blaen. Fel arfer mae rhyw 20,000 ohonynt yn mentro i’r Bae, ond yn ystod y gaeaf diwethaf daeth 43,000.
Cafodd y niferoedd hyn eu cofnodi fel rhan o'r rhaglen gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru i fonitro bywyd gwyllt mewn ardaloedd morol sydd o bwysigrwydd Ewropeaidd i fywyd gwyllt. Yn ôl pob tebyg cyfrannodd y gaeaf oer at niferoedd y môr-hwyaid duon eleni, gydag adar o Sgandinafia yn dod draw yma er mwyn cael lloches yn ein dyfroedd cymharol gynnes.
Ar ôl damwain olew y Sea Empress yn ystod gaeaf 1996, llwyddodd y boblogaeth i gael ei chefn ati’n dda ond, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r niferoedd wedi bod yn anarferol o fach. Felly mae’r holl adar a ddaeth yma eleni yn arwydd pendant bod digon o fwyd i’r adar yn y Bae a bod y ffordd sensitif o reoli’r safle yn talu ar ei ganfed.
Mae canlyniadau’r gaeaf hwn yn amlygu pwysigrwydd y gwaith monitro cynaliadwy sy'n cael ei wneud er mwyn deall cyflwr Bae Caerfyrddin a’r gwaith rheoli sensitif a gyflawnir yno. Llwyddodd arolygwyr ymgynghorol Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, ar ran y Cyngor Cefn Gwlad, i gyfrif yr adar o ben clogwyni ac o fannau gwylio hwylus eraill o amgylch y bae. Cafodd y rhan fwyaf o’r môr-hwyaid eu cofnodi mewn clwstwr di-dor 8 cilomedr o hyd a oedd yn drwch o adar ac a oedd yn ymestyn o gyffiniau pen pellaf traeth Pentywyn ger aber y Tair Afon hyd at fan i’r gorllewin o Drwyn Dolwen.
Gwaetha'r modd, oherwydd gwasgfeydd ar y gyllideb, nid oedd cyllid eleni ar gyfer gwaith monitro môr-hwyaid duon.
|