Loading translations… loading
Home Newsletters October/November 2009 Cynllunio a bioamrywiaeth – cyfarwyddyd newydd gan y llywodraeth

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Cynllunio a bioamrywiaeth – cyfarwyddyd newydd gan y llywodraeth PDF Print E-mail

Mae'r drefn gynllunio yn gallu effeithio'n fawr ar gynefinoedd a rhywogaethau yn Sir Gaerfyrddin. Yn ffodus mae cynllunwyr yn gallu defnyddio polisïau a deddfwriaeth i sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i faterion bioamrywiaeth, a dylai hynny helpu i sicrhau bod effeithiau mawr o'r fath yn cael eu gwaredu neu eu lliniaru, neu fod iawn yn cael ei wneud amdanynt. Mae hyn yn unol â gofynion y Cyngor o ran ceisio gofalu bod pob datblygiad yn gynaliadwy. Yn ogystal, mae materion bioamrywiaeth yn cael sylw'n fwyfwy cynnar yn y drefn gynllunio, sy'n golygu bod rhywogaethau a warchodir megis ystlumod a phathewod a chynefinoedd pwysig yn cael sylw trwy arolygon cyn cyflwyno ceisiadau. Gan fod yr agwedd dymhorol yn gallu bod yn elfen bwysig wrth gynnal arolygon o blanhigion ac anifeiliaid, mae pryd y cynhelir yr arolygon hyn o'r pwys pennaf.

Yn ddiweddar lluniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gyfarwyddyd cynllunio diwygiedig ynghylch sut y dylai'r system cynllunio defnydd tir gyfrannu at warchod a gwella bioamrywiaeth. Amlinella'r cyfarwyddyd y prif egwyddorion o ran cynllunio ar gyfer cadwraeth. Bydd y cyfarwyddyd cynhwysfawr hwn (Nodyn Cyngor Technegol 5) yn arf hollbwysig wrth ddiogelu bioamrywiaeth yn ystod y drefn gynllunio.

Mae'r datblygiad yn ddiweddar ar dir Ysgol Gynradd Tŷ-croes yn esiampl loyw o sut y gellir, drwy roi ystyriaeth gynnar i effaith datblygiad ar yr amgylchedd naturiol, achub cynefin pwysig a allai fod wedi ei golli fel arall yn sgil datblygu'r tir.

Mae'r ysgol gynradd yn Nhŷ-croes yn cael ei hailddatblygu, ac mae estyniadau a maes parcio yn cael eu codi ar dir yr ysgol. Dangosodd arolwg cynnar o'r safle fod y cae chwarae wedi ei reoli mewn dull oedd yn gwarchod yr amrywiaeth blodau oedd ar y tir, a hynny ers i'r ysgol gael ei chodi ynghanol y tridegau. Yn wir yr oedd y glaswelltir hwn yn enghraifft o gynefin sy'n brin iawn bellach yn sgil amaethu dwys ac yn sgil defnyddio cemegion amaethyddol. Yn hytrach na'r drefn arferol, sef torri'r gwair a gadael i’r gwair bydru yno yn y man, roedd y gwair yn cael ei gludo o'r cae. Golygai hynny fod y pridd yn dal i fod yn bridd heb ei gyfoethogi, ac roedd hynny'n sicrhau bod yno amrywiaeth o flodau yn hytrach na bod glaswellt yn mygu popeth arall.

Gan fod y glaswelltir yn cael ei dorri'n rheolaidd er mwyn cynnal y cae ar gyfer mabolgampau a gweithgareddau eraill gan yr ysgol, prin oedd y planhigion oedd yn blodeuo a hadu, a hynny mae'n debyg oedd y rheswm pam nad oedd neb wedi sylwi ar werth blodeuegol y cae yn y gorffennol.

Mae rhai rhywogaethau anghyffredin yn tyfu ar y cae - cofnodwyd planhigion megis ysgallen y ddôl (Cirsium dissectum), tamaid y cythraul (Succisa pratensis), a'r carwe troellog (Carum verticillatum) sy'n nodweddiadol o fath o laswelltir a arferai fod yn gyffredin yn Sir Gaerfyrddin ond sydd bellach ymhlith y glaswelltiroedd prinnaf yn y sir. Bydd codi estyniad newydd i'r ysgol yn effeithio ar y darn hwn o dir, ond yn sgil cynnal trafodaethau â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru penderfynwyd symud y cynefin hwn i'r Ardd Fotaneg - y bwriad yw codi cyfanswm o 320 o fetrau sgwâr o dyweirch sydd o werth ecolegol ac ailosod y cwbl yn yr Ardd Fotaneg.
Codir y tyweirch drwy ddefnyddio peiriant â bwced turio (bwced wastad heb ddannedd), yna eu gosod ar baledi a'u cludo i'r Ardd Fotaneg. Yno cânt eu hailosod yn ofalus mewn man pwrpasol dan oruchwyliaeth staff arbenigol. Dylai'r tyweirch gael eu hailosod cyn pen 24 awr ar ôl eu codi. Trwy fwrw ati i godi tyweirch codir rhywfaint o'r pridd yn ogystal â'r llystyfiant. Mae hyn yn sicrhau bod y llystyfiant yn cael ei symud heb fawr ddim tarfu arno, ac yn golygu bod y ffyngau a'r mân-flodau - sy'n elfennau hollbwysig ond anweledig, i raddau helaeth iawn, o gynefin dôl - yn cael eu symud hefyd.

Yn eironig ddigon, mae'n rhaid bod llecyn cadwraeth yr ysgol wedi deillio o'r un math o lystyfiant, ond gan nad yw'r glaswelltir wedi ei dorri'n rheolaidd (ac eithrio'r llwybrau trwy'r llecyn ac o'i amgylch) ac oherwydd bod dulliau rheoli amhriodol wedi eu defnyddio ynghyd â phlannu coed a llwyni estron, mae wedi colli llawer o'i werth o safbwynt bioamrywiaeth.
Hefyd daethpwyd o hyd i ystlumod yn adeiladau'r ysgol, ac felly bydd yn rhaid i'r cais ddangos na fydd y gwaith yn yr ysgol yn tarfu ar yr ystlumod, a sut y bydd clwydfannau ar gyfer yr ystlumod yn cael eu cynnwys yn y datblygiad newydd gan sicrhau bod yr ystlumod yn gallu defnyddio'r ysgol o hyd.

Yn ogystal gwelwyd bod gwenoliaid duon yn nythu yno, a bod posibilrwydd i adar y to ac adar eraill nythu yn adeiladwaith yr ysgol, ac felly dylid darparu mannau nythu yn nyluniad yr adeilad newydd.

Mae'r datblygiad hwn yn enghraifft dda o sut mae rhoi sylw cynnar i fioamrywiaeth a chymryd camau priodol yn unol â pholisïau a deddfwriaeth cynllunio, yn gallu sicrhau nad yw datblygiadau, o reidrwydd, yn andwyol i fioamrywiaeth.