Loading translations… loading
Home Newsletters October/November 2009 Llyfryn am amffibiaid ac ymlusgiaid yn Ne Cymru

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Llyfryn am amffibiaid ac ymlusgiaid yn Ne Cymru PDF Print E-mail

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Grŵp Amffibiaid ac Ymlusgiaid De a Gorllewin Cymru wedi llunio llyfryn cynhwysfawr ynghylch y grwpiau diddorol hyn o anifeiliaid.

Yn anffodus, mae niferoedd amffibiaid (brogaod, llyffantod a madfallod dŵr) ac ymlusgiaid (nadroedd a madfallod) yn gostwng – oherwydd bod cynefinoedd yn cael eu colli a'u darnio (yn sgil adeiladu a cholli cynefinoedd 'garw') – ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn ceisio helpu'r rhywogaethau hyn lle y gallwn.

Bydd y llyfryn hwn yn helpu pobl i ddysgu rhagor am yr amffibiaid a'r ymlusgiaid sydd i'w cael yn y sir – mae pennod gynhwysfawr ynghylch sut mae adnabod rhywogaethau – a hefyd yn rhoi gwybodaeth ynghylch deddfwriaeth, creu pyllau, a rheoli safleoedd yn benodol ar eu cyfer.

Anfonwyd copïau i'r holl ysgolion ac at staff cynnal a chadw y Cyngor. Os hoffech gael copi o'r llyfryn hwn, cysylltwch ag Isabel Macho ( This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it ).