Loading translations… loading
Home Newsletters October/November 2009 Pathewod yn Sir Gaerfyrddin

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Pathewod yn Sir Gaerfyrddin PDF Print E-mail

Dormouse © J HartleyY Pathew (Muscardinus avellanarius) yw'r unig rywogaeth gynhenid o bathewod ym Mhrydain. Arferai pathewod fod yn gyffredin ledled y rhan fwyaf o Brydain ond ar y cyfan maent i'w gweld bellach yn ne Lloegr ac yng Nghymru yn unig, a hynny oherwydd newidiadau o ran arferon rheoli coetiroedd ac o ran arferion amaethu, oherwydd colli perthi, ac oherwydd bod coetiroedd wedi eu darnio. Yng Nghymru digon gwasgaredig yw dosbarthiad pathewod; yn wir mae Sir Gaerfyrddin yn un o'r siroedd prin lle mae cofnodion gweddol gynhwysfawr ar gael. De-ddwyrain y sir yw cadarnle'r rhywogaeth hon; tynnwch linell ddychmygol ar hyd afon Tywi, ac yna meddwl am gornel dde-ddwyreiniol y sir. Yng ngweddill y sir mae dosbarthiad pathewod yn fwy gwasgaredig. Y tu hwnt i'r sir, mae'r cofnodion agosaf yng ngogledd Sir Benfro, Gŵyr, Aberhonddu a Phen-y-bont ar Ogwr.

Arferai'r arbenigwyr gredu taw coetiroedd collddail lle'r oedd digonedd o isdyfiant, coedlannau, a pherthi yn gyforiog o rywogaethau, oedd cynefinoedd traddodiadol pathewod. Nid pathewod traddodiadol mo rhai Sir Gaerfyrddin. Er bod nifer ohonynt yn byw mewn coetiroedd, maent i'w cael hefyd mewn perthi llwm eu rhywogaethau, mewn prysgwydd ar hen domenni glo, ac mewn coedlannau bychain darniog; yn wir cofnodwyd pathew mewn pêl dennis oedd yn cael ei defnyddio i gofnodi llygod yr ŷd mewn corslwyn. Ond heb unrhyw amheuaeth mae pathewod Sir Gaerfyrddin yn dwlu ar fieri – yn ôl pob golwg mae trwch o fieri sy'n ffinio ar berth yn nef i bathewod.

Mae naturiaethwyr yn cadw golwg ar bresenoldeb a niferoedd pathewod drwy ddefnyddio blychau pathewod, sy'n debyg iawn i flychau nythu ar gyfer adar. Y safle yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi ei gofnodi hiraf o safbwynt pathewod yw Rhos Cefn Bryn, sef safle'r Ymddiriedolaeth Natur ger Llannon. Gan ddefnyddio blychau pathewod, mae'r goedlan fechan a'r perthi ar y safle wedi bod dan sylw ers rhyw 15 mlynedd, ond nid yn ddifwlch. Yn wreiddiol gwelwyd bod pathewod yn bresennol yn y goedlan ac yn un o'r perthi yn unig, ond ers hynny gwnaed gwaith i dewhau'r berth yng nghanol y warchodfa drwy blannu rhagor o lwyni a thrwy osod ffens er mwyn atal creaduriaid rhag pori bôn y berth. Yn ystod y tair blynedd diwethaf cadarnhawyd bod pathewod yn defnyddio'r berth ganolog erbyn hyn, a gwelwyd hefyd eu bod yn defnyddio'r rhan fwyaf o'r perthi yn y warchodfa. Bob blwyddyn mae cofnodion Rhos Cefn Bryn yn cael eu hychwanegu at gofnodion y Rhaglen Monitro Pathewod Genedlaethol, a gynhelir gan y People’s Trust for Endangered Species (PTES), sy'n crynhoi data am bathewod ledled Prydain.

Mae'r blychau, rhyw 45 ohonynt, yn cael eu harchwilio bob mis drwy'r haf. Y nifer mwyaf a gofnodwyd yn ystod ymweliad oedd 15 ym mis Medi 2007! Ond bu'r niferoedd eleni a'r llynedd yn llawer llai, ac nid oedd dim arwyddion bod pathewod yn magu. Pam y cawsom gynifer o bathewod yn 2007? Efallai bod y tywydd yn elfen bwysig gan fod pathewod yn hoffi hafau sych a chynnes - yn wir, rwyf yn meddwl weithiau ei bod yn wyrthiol fod gennym bathewod o gwbl! Gan fod y tri haf diwethaf wedi bod yn wlyb iawn, hyd yn oed i ni, felly ai'r tywydd sydd i gyfrif am y gostyngiad a'r ffaith fod cyn lleied o'r blychau wedi eu defnyddio? Ond ni fyddai hynny'n esbonio'r niferoedd da yn 2007, a oedd yn flwyddyn wlyb iawn. Roeddem wedi gosod llwyth o flychau newydd yn y goedlan yn gynnar yn 2007. Felly a oes gennym boblogaeth o bathewod detholgar, sydd ond yn fodlon defnyddio blychau newydd? A ydynt yn gadael yr hen rai, sy'n frith o falwod, chwilod clust a llwydni, i'r adar, i'r llygod lleiaf ac i lygod y coed? Ein gobaith yw cael yr ateb flwyddyn nesaf. Ein bwriad yw rhoi prawf ar fath newydd o flwch, sydd wedi ei wneud o bibau glaw ac a ddylai fod yn sychach yn sgil hynny. Byddwn yn gosod y rhain wrth ymyl y rhai pren, ac yn cofnodi'r canlyniadau.