Loading translations… loading
Home Newsletters October/November 2009 Rhywogaeth sy'n destun Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth: Y Fôr-hwyaden Ddu (Melanitta nigra)

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Rhywogaeth sy'n destun Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth: Y Fôr-hwyaden Ddu (Melanitta nigra) PDF Print E-mail

Male Common Scoter © WWTHwyaden dywyll ei phlu yw hon sy'n magu ar ddyfroedd croyw (ei chynefin yn ystod y tymor magu yw llynnoedd bychain yng Ngogledd a Gorllewin yr Alban) ond sy'n treulio gweddill y flwyddyn ar y môr, gan wneud hynny weithiau mewn heidiau anferth. Mae heidiau enfawr o fôr-hwyaid duon yn dod at ei gilydd i faeau tywodlyd gyda'r glannau er mwyn bwydo ar bysgod bychain a chreaduriaid di-asgwrn-cefn.

Mae niferoedd helaeth o fôr-hwyaid duon yn dod i Fae Caerfyrddin ac mae'r ardal hon o bwys mawr i'r rhywogaeth hon. Yn wir mae Bae Caerfyrddin wedi ei ddynodi'n ‘Ardal Gwarchod Arbennig’ ar gyfer y rhywogaeth hon.

Cofnodwyd 6189 o Fôr-hwyaid Duon yn 2007/08 drwy gynnal arolwg ar y ddaear. Yr oedd hyn dipyn yn llai'r na niferoedd mwyaf y gaeafau blaenorol (cofnodwyd 24,460, 20,287 a 14,412 yn 2004/05, 2005/06 a 2006/07). Yn ôl Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, a gynhaliodd arolwg 2007/08, er bod cyfartaledd y safle dros bum mlynedd yn dal i fod yn fwy nag 16,000, a oedd yn golygu ei fod yn croesi trothwy 'cyflwr boddhaol', byddai'r cyfartaledd yn gostwng o dan y trothwy hwn ymhen gaeaf neu ddau pe bai'r niferoedd yn aros yn fras ar lefelau 2007/08. Yn ffodus, yn ôl cyfrifiad daear 08/09, a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir ym mis Chwefror 2009, cofnodwyd nifer mwyaf o 22,930 o adar. Mae'n galonogol bod y niferoedd yn debyg i'r rhai ychydig aeafau ynghynt, a bod niferoedd y boblogaeth yn dal i fod yn ffafriol. Ond mae bylchau mawr yn ein gwybodaeth o hyd ynghylch beth sy'n achosi i'r niferoedd amrywio.

Scoter group © Norrie Russell