Loading translations… loading
Home Newsletters October/November 2009 Seminarau ynghylch Bioamrywiaeth i'r Cynghorwyr Sir

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Seminarau ynghylch Bioamrywiaeth i'r Cynghorwyr Sir PDF Print E-mail

Cirsium dissectum © Richard PryceCynhaliwyd dau seminar ynghylch bioamrywiaeth i'r cynghorwyr yn ystod yr hydref. Trefnodd yr Adain Gadwraeth sesiynau rhyngweithiol yng Nghanolfan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir ger Llanelli ac yn y coleg amaethyddol yng Ngelli Aur. Daeth cyfanswm o ?? o gynghorwyr i'r sesiynau. Y diben oedd cynyddu ymwybyddiaeth y cynghorwyr o ddyletswyddau bioamrywiaeth y Cyngor o dan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006, trafod gwaith yr Adain Gadwraeth a dangos sut mae'r partneriaid ym Mhartneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yn cydweithio i hybu prosiectau cadwraeth.

Yr oedd y sesiwn gyntaf yn hoelio sylw ar gynefinoedd gwlyptiroedd arfordirol Llanelli, a chafodd y cynghorwyr gyfle i gael golwg ar brosiect llygod pengrwn y dŵr yn y Bynea lle buont yn trafod datblygu'r safle mewn modd a fyddai'n cwmpasu bioamrywiaeth.

Cynhaliwyd yr ail sesiwn yng Ngholeg Gelli Aur pryd yr hoeliwyd sylw ar waith cadwraeth yn Nyffryn Tywi. Bu cynrychiolwyr Asiantaeth yr Amgylchedd, Tywi Afon yr Oesoedd ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn siarad am eu gwaith yn y dyffryn. Trafodwyd pwysigrwydd Afon Tywi, sy'n cael ei gwarchod oherwydd ei gwerth rhyngwladol fel cynefin i nifer o rywogaethau pwysig. Ar ben hynny cafwyd anerchiadau byr am y cwtiaid torchog lleiaf a golfanod y mynydd - gan fod y ddwy rywogaeth yn gwbl ddibynnol ar yr afon a'r dyffryn er mwyn goroesi. Yn ogystal pwysleisiwyd gwerth economaidd afon Tywi i'r sir: hon yw'r afon orau yng Nghymru i bysgota am sewin, ac mae pob pysgodyn sy'n cael ei ddal yn werth £4,000 i economi'r sir. Hefyd rhoddwyd sylw i bwysigrwydd tirwedd hanesyddol y dyffryn gan gyfeirio at y coed hynafol a'r parcdiroedd.

Bellach mae Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig yn datgan bod gan bob corff cyhoeddus ddyletswydd o ran hyn o beth: Wrth gyflawni ei swyddogaethau, mae'n rhaid i bob awdurdod cyhoeddus roi ystyriaeth i warchod bioamrywiaeth, i'r graddau y mae hynny'n gyson â chyflawni'r cyfryw swyddogaethau. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dehongli'r ddeddfwriaeth yn y fath fodd ag i olygu gwella bioamrywiaeth hefyd. Diben y ddyletswydd hon yw rhoi mwy o amlygrwydd i fioamrywiaeth ar draws y sector cyhoeddus gan sicrhau bod bioamrywiaeth yn ystyriaeth naturiol wrth lunio polisïau ac wrth wneud penderfyniadau. Dangoswyd i'r cynghorwyr y pethau hynny rydym yn eu gwneud eisoes sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, ond hefyd rhoddwyd sylw i feysydd lle mae angen ymgynghori rhagor ag adrannau eraill a lle mae posibiliadau o ran cynyddu ymwybyddiaeth o hyn o beth. Yr oedd y seminar yn pwysleisio bod angen i'r holl adrannau weithredu o ran bioamrywiaeth: mae datblygu a gweithredu polisïau a strategaethau lleol ynghyd â dylanwadu arnynt, rheolaeth ar gynllunio a datblygu, rheoli ystadau, addysg, cynyddu ymwybyddiaeth, a chyflawni swyddogaethau ymgynghorol oll yn gallu cyfrannu at warchod bioamrywiaeth.

Y gobaith yw y bydd y sesiynau hyn yn galluogi'r cynghorwyr i fod yn 'hyrwyddwyr bioamrywiaeth' gan roi sylw i faterion bioamrywiaeth, lle mae hynny'n angenrheidiol, yn y llu cyfarfodydd y maent yn eu mynychu ledled y Cyngor.

 

Grassland rellocation project

Grassland Relocation project