Loading translations… loading
Home Newsletters September/October 2011 Cynllun i Ddiogelu Natur Forol Bae Caerfyrddin – Blaise Bullimore

eNewsletter

Cynllun i Ddiogelu Natur Forol Bae Caerfyrddin – Blaise Bullimore PDF Print E-mail

Dahlia AnemoneMae’r hysbysebion twristiaeth ar gyfer Gorllewin Gŵyr, Pentywyn a Dinbych-y-pysgod fel arfer yn canmol y traethau lleol a’r golygfeydd gwych dros Fae Caerfyrddin.  A pham laiMaen nhw’n drysorau naturiol cwbl unigrywOnd fel y gŵyr pawb, nid ar yr wyneb y mae pob trysor (meddyliwch am y ffilm ‘Pirates of the Caribbean’).

Dydy Bae Caerfyrddin ddim yn wahanol yn hyn o beth.  Mae’r natur forol - y fioamrywiaeth - sydd o’r golwg dan y tonnau a’r twyni tywod, hefyd yn un o’n trysorau ni.  Ond mae’r ffordd yr ydyn ni’n defnyddio’r Bae a’i aberoedd yn effeithio ar y trysorau hyn.

Mae ambell rywogaeth forol yn lliwgar iawn ac yn byw yn yr awyr agored.  Er enghraifft, mae anemonïau pen dahlia yn carpedu’r creigiau ar Woolhouse Rocks gerllaw Dinbych-y-pysgod.  Ond mae’r amrywiaeth fwyaf o ddigon o’r golwg – naill ai’n bitw neu’n amrywiaeth o frown, neu wedi’u claddu yn y tywod a’r mwd ar wely’r môr.  Mae degau o fwydod, cramenogion, a physgod cregyn dwygragennog mewn llond llaw o dywod ar wely’r môr, a thros 5000 o anifeiliaid unigol o fwy na 60 math gwahanol ym mhob troedfedd sgwâr o wely’r môr mewn ambell ran o’r Bae.

Ymhlith y creaduriaid bach hyn mae draenogod môr, anemonïau, a chyllyll môr, ac mae crancod meddal,  cregyn moch a sêr môr yn cropian ar hyd wyneb y tywod.  Mae’n we gymhleth o fywyd, gydag ambell greadur yn bwydo ar ddarnau pitw o algae morol, ac eraill yn chwilio am sborion mewn algae marw a gweddillion anifeiliaid, a llawer mwy yn ysglyfaethwyr.  Gall gorecsploetio neu lygredd gael effaith niweidiol ar y rhain.

Ysglyfaethwyr yw’r cregyn moch, ond maen nhw hefyd yn ailgylchu gan eu bod yn bwyta creaduriaid marw.  Roedden nhw’n arfer bod yn gyffredin iawn yn y Bae.  Mae dros ddeng mil tunnell o gregyn moch wedi’u dal a’u hallforio ers canol yn 1990au.  Mae hynna’n ormod.  Does neb yn gwybod pa effaith mae hyn wedi’i gael ar yr ecosystem, ond mae rhaid ei fod yn sylweddol.

Mae Bae Caerfyrddin yn cynnal nifer enfawr o sglefrod môr - edrychwch ar y prosiect sglefrod môr yn www.jellyfish.ie - ac oherwydd y rhain mae’r Bae yn un o’r mannau gorau ym Mhrydain i weld crwbanod môr lledraidd.  Mae’r ymlusgiaid lled-drofannol anferth hyn hwythau’n rhan o’n bioamrywiaeth leol.

Felly hefyd y môr hwyaid cyffredin sy’n magu yn yr is-arctig ac yn mudo i’r de i benrhyn Iberia ac i Ogledd Affrica dros y gaeaf.  Maen nhw’n aros ym Mae Caerfyrddin dros dro i orffwys ac i gael nerth drwy fwydo ar y cyflenwad da o bysgod cregyn yn y dyfroedd bas.

Mae Bae Caerfyrddin a’i aberoedd yn rhan o rwydwaith Ewropeaidd o ardaloedd sydd wedi’u henwi er mwyn diogelu bywyd gwyllt pwysig neu fywyd gwyllt sydd dan fygythiad ar lefel Ewropeaidd.  Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r mannau hyn rhag i bobl eu niweidio.

Y Safleoedd Morol Ewropeaidd yw’r ardaloedd morol pwysicaf oll y mae angen eu gwarchod a’u diogelu.  Dyma ran o gyfraniad yr Undeb Ewropeaidd at ofalu am fioamrywiaeth y môr.  Nid gwarchodfeydd natur ydyn nhw, oherwydd maen nhw’n dal i gael eu defnyddio ar gyfer pob math o weithgareddau, ond rhaid rhoi blaenoriaeth uchel i ddiogelu bywyd gwyllt y môr.

Mae’r awdurdodau cyhoeddus sy’n gyfrifol am reoli’r amryfal weithgareddau yn y Bae wedi gweithio mewn partneriaeth i lunio cynllun rheoli sy’n rhestru’r pwysau sydd ar y safle a sut orau i liniaru’r pwysau hynny.

Gallwch ddarllen y Cynllun Rheoli drafft a mynegi sylwadau arno yn

www.cbeems.org.uk tan 31 Hydref 2011.   Croesewir ymateb gan y cyhoedd, rhanddeiliaid, cymunedau lleol ac awdurdodau rheoleiddio a rheoli.  Mae copïau o’r cynllun hefyd ar gael yn swyddfeydd y Cyngor Sir a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.  Ffoniwch 01792 635077 am y lleoliad agosaf atoch chi.

Whelk