Loading translations… loading
Home Newsletters September/October 2011 Parc y Fferws – yn ei flodau (wel, rhan ohono ta beth!)

eNewsletter

Parc y Fferws – yn ei flodau (wel, rhan ohono ta beth!) PDF Print E-mail

Parc-y-Ferws Y llynedd, cysylltodd Cyngor Cymuned Llanedi â’r Cyngor Sir ynghylch darn o Barc y Fferws yn Llanedi i weld a oedd modd ei reoli ar gyfer bioamrywiaethCododd y syniad ar ôl cyflwyniad i Gynghorau Cymuned am eu cyfrifoldeb i hybu bioamrywiaethGlaswelltir corsiog oedd y Parc ers talwm ac roedd yno bob math o rywogaethauErbyn hyn mae’r Parc yn cael ei dorri’n rheolaidd i greu maes chwarae.  Mae torion y borfa yn cael eu symud oddi yno yn hytrach na’u gadael i bydruByddai hynny’n rhoi maeth i’r pridd ac yn helpu’r glaswellt i dyfuHefyd, does dim gwrtaith wedi’i ddefnyddio ar y tir.   Cytunodd y Cyngor Cymuned greu gweirglodd yng nghornel y Parc, hynny yw gadael i’r borfa dyfu a thorri a symud y torion glaswellt ym mis AwstByddai hynny yn rhoi cyfle i flodau dyfu a gwasgaru hadauByddai’n gyfle i bobl leol weld y math o gynefin oedd yn arfer bod yn gyffredin yn yr ardal.

Yn ystod yr haf, gwelwyd fod tipyn o rywogaethau yn y rhan fwyaf o’r weirglodd.  Roedd y carwe troellog (whorled caraway), blodyn y sir, yn eithaf cyffredin.  Dyma ffordd dda o ddangos cynefin glaswelltir llaith sydd heb ei wella.  Gwelwyd y tegeirian brych a thegeirian cors y de yno hefyd ynghyd â gwahanol fathau o laswellt, hesg, mwsogl a phlanhigion sy’n blodeuo.  Roedd gwenyn, gloÿnnod byw a cheiliogod rhedyn yn bywiogi’r safle, ac i goroni’r cyfan gwelwyd gwalchwyfyn hofran (hummingbird hawkmoth) ar wyddfid oedd yn tyfu ar yr ymylon.

Gobeithir y bydd Cyngor Cymuned Llanedi yn cytuno i barhau i reoli’r darn bach hwn fel gweirglodd.  Y flwyddyn nesaf fe allwn ni godi arwydd bach yn esbonio i bobl leol beth allan nhw ei weld yno.