















| Pwyllwch cyn taflu! |
|
|
|
|
Mae sbwriela a thipio anghyfreithlon yn achosi tipyn o ben tost i’r Ymddiriedolaeth Natur yn Sir Gâr (fel mewn sawl man arall). Yng ngwarchodfa natur yr Ymddiriedolaeth yn Fferm Ffrwd ger Pen-bre, sy’n bwysig yn genedlaethol am ei chynefinoedd ac am yr adar a’r pryfed sy’n magu yno, mae’r Ymddiriedolaeth yn clirio llond sawl fan o sbwriel bob blwyddyn, a hynny o un darn o dir. Am fod rhywun wedi tipio gwastraff gardd yno, maen nhw hefyd wedi gorfod ymdopi â phla o Glymog Japan (Japanese Knotweed). Pan aeth Brian Mogford, o’r mudiad Trefi Taclus, draw i Bontnewydd i helpu i glirio’r safle, fe ddaeth o hyd i botel wydr. Ar yr olwg gyntaf tybiodd mai pridd oedd ynddi, ond wedi edrych yn fanylach gwelodd weddillion o leiaf 19 creadur bach. Roedden nhw wedi mynd yn sownd yn y botel ac wedi marw. Dydy pobl ddim bob amser yn deall yr effaith y gall taflu pethau ei gael ar fywyd gwyllt, hyd yn oed eitemau bach fel poteli a chaniau diod. Mae papur lapio bwyd yn denu creaduriaid bach i chwilio am rywbeth i’w fwyta ac maen nhw'n mynd i mewn i’r bocsys ac yn mynd yn sownd ynddyn nhw. Mae mamaliaid bach mewn cryn beryg, ond maen hawdd iawn i adar ac ymlusgiaid fynd yn sownd hefyd. Yn sicr nid cofnodi mamaliaid drwy gyfri eu cyrff mewn poteli yw’r ffordd orau o ddysgu am famaliaid yn y sir. |