Wrap up for winter - or just head for the sun

Swallow © Richard Facey(Extracted from the BBC Wildlife Magazine)

Spring is hopefully just around the corner and after one of the coldest winters in recent years it can’t come soon enough, especially for our wildlife. So what are the strategies that help our wildlife get though the winter season?

Animals have many ways of dealing with winter – short days and long nights, low temperatures and poor weather are all challenges that need to be overcome.

Gwisgwch yn gynnes ar gyfer y gaeaf - neu baglwch hi i'r haul

(o'r BBC Wildlife Magazine)

Y gobaith yw bod y gwanwyn ar ein gwarthaf ac, ar ôl un o'r gaeafau oeraf ers blynyddoedd lawer, mae disgwyl mawr am y gwanwyn, yn enwedig ymhlith ein bywyd gwyllt. Felly beth yw'r strategaethau sydd gan fywyd gwyllt i oroesi'r gaeaf?

Mae gan anifeiliaid sawl ffordd o ymdopi â'r gaeaf - mae diwrnodau byrion a nosweithiau maith ynghyd ag oerfel a thywydd stormus oll yn sialensiau y mae'n rhaid i anifeiliaid eu goresgyn os ydynt am oroesi.

Caring for wetlands

Wetlands © Lizzie WilberforceWorld Wetlands Day came around again in February and focus has been placed on highlighting the importance of conserving our wetland habitats and the benefits this has not only for the wildlife they support but for us – including helping to counter climate change and adapting to it.

In Carmarthenshire wetland habitats include rivers, ponds, lakes, fens, bogs, reedbeds and coastal and floodplain grazing marsh habitats.

Gofalau am ein gwlyptiroedd

Mae Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd ar ein gwarthaf unwaith eto y mis hwn ac mae'r pwyslais eleni ar bwysigrwydd gwarchod ein gwlyptiroedd a manteision hynny nid yn unig i'r bywyd gwyllt y mae gwlyptiroedd yn gynefinoedd iddynt ond i ni hefyd - gan ein helpu i wrthsefyll cynhesu byd-eang ac i ymaddasu iddo.

Yn Sir Gaerfyrddin mae'r gwlyptiroedd ar ffurf afonydd, pyllau, llynnoedd, ffeniau, corsydd, corslwyni, corsydd pori arfordirol, a chorsydd pori ar orlifdiroedd.

What happened to all that road salt?

Gritting LorryOver the past few weeks many tonnes of salt have been poured onto our roads, to ensure that we can travel safely through the icy conditions, but where has all this salt gone?

Although it was life saving for us, unfortunately it is unlikely to be the good news for our streams and rivers, which will likely be the recipients of much of this salt as it washes away into verges and drainage systems come the thaw.

Beth ddigwyddodd i'r holl halen a wasgarwyd ar ein ffyrdd dros y gaeaf?

Yn ystod yr wythnosau diwethaf gwasgarwyd tunelli lawer o halen ar ein ffyrdd er mwyn sicrhau ein bod yn gallu teithio'n ddiogel pan oedd y tywydd yn rhewllyd, ond i ble mae'r holl halen wedi mynd?

Er bod halen yn fendith fawr inni ar y pryd, gwaetha'r modd go brin fod yr holl halen yn llesol i'n nentydd a'n hafonydd, gan taw cyrraedd y rhain a wnaeth llawer o'r halen wrth iddo gael ei olchi oddi ar ein ffyrdd i'r ffosydd a'r systemau draenio.

"Sea Empress" scoter ringing recoveries - what have we learned so far?

Bob Haycock

Scoter group © Norrie RusselBack in those dark days of Feb 1996, some 4,571 common scoters were found dead/dying in and around Carmarthen Bay as a direct result of the "Sea Empress" oil spill. However many oiled scoter were rescued, cleaned and released, even though the sceptics said it was a waste of time - they were unlikely to survive long.

Back in 1996, next to nothing was known of the origins of scoter wintering in the Bay. By ringing the cleaned birds (later released from rehab centres in cleaner waters off the Welsh coast and in southern England) it was hoped that at least something positive would come out of this disaster. So what have we learned so far?

Gwybodaeth am fodrwyo mor-hwyaid du yn sgil trychineb y "Sea Empress" - beth ydym wedi ei ddysgu hyd yn hyn?

Bob Haycock

Yn ôl yn y dyddiau tywyll hynny ym mis Chwefror 1996, daethpwyd o hyd i 4,571 o fôr-hwyaid du oedd wedi marw neu oedd ar fin marw ym Mae Caerfyrddin a'r cyffiniau o ganlyniad uniongyrchol i'r olew oedd wedi gollwng o'r "Sea Empress". Fodd bynnag llwyddwyd i achub nifer o fôr-hwyaid du o'r olew, gan fwrw ati i'w glanhau ac yna eu gollwng, er bod yr amheuwyr yn dweud taw gwaith ofer oedd hynny gan y byddai'r adar yn trigo ymhen dim o dro.

Yn 1996 nid oedd gennym braidd dim gwybodaeth ynghylch o ble y deuai'r môr-hwyaid du oedd yn gaeafu yn y Bae. Trwy fodrwyo'r adar ar ôl eu glanhau (ac yna eu rhyddhau o'r canolfannau achub mewn dyfroedd glân mewn mannau eraill oddi ar arfordir Cymru a de Lloegr) y gobaith oedd y byddai rhywbeth cadarnhaol yn deillio o'r trychineb hwn. Felly beth ydym wedi ei ddysgu hyd yn hyn?

More research done on the decline of the honey bee

Honey Bee © Welsh Wildlife PhotographyNew research has suggested that reduced plant diversity may be a cause for the decline of honeybees that has been seen in many countries in recent years.

Bees that have been fed pollen from a range of plants showed signs of having a healthier immune system than those eating pollen from a single type.

Rhagor o waith ymchwil ynghylch sefyllfa druenus gwenyn

Dengys gwaith ymchwil newydd y gallai llai o amrywiaeth o blanhigion fod yn rheswm posibl dros y dirywiad syfrdanol yn niferoedd gwenyn mewn llawer o wledydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gwelwyd bod gan wenyn oedd wedi bwyta paill o amrywiaeth o blanhigion system imiwnedd iachach na gwenyn oedd wedi  bwyta paill o un math o blanhigyn yn unig.