spacer
spacer
 
Home Gardd Arolwg

Gardd Arolwg

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gerddi a rhandiroedd wedi dod yn gynefinoedd mwyfwy pwysig i fywyd gwyllt, gan gynnwys nifer o rywogaethau sydd bellach yn brin yng nghefn gwlad. Wrth i'r amgylchedd ehangach golli rhywogaethau, mae gerddi yn fwyfwy o noddfa i amrywiaeth anferth o adar a thrychfilod. Mae'n bosibl bellach fod gerddi trefol yn gadarnleoedd arwyddocaol i famaliaid megis draenogod ac i amffibiaid.
Yn ogystal mae gerddi a rhandiroedd yn gallu bod yn llwybrau cyswllt pwysig i fywyd gwyllt. Yn ein trefi, mae cyfran helaeth o'r cynefin sydd ar gael ar gyfer bywyd gwyllt ar gael ar ffurf gerddi, sef 'ysgyfaint gwyrdd' ein hamgylchedd trefol.

Mae'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth diwygiedig ar gyfer y Sir yn rhoi sylw i gynefinoedd ein gerddi. Rydym yn awyddus i gael gwybod trwy'r arolwg hwn sut mae bywyd gwyllt yn defnyddio ein gerddi, ac i annog perchenogion/deiliaid tai a busnesau i gynnwys nodweddion ar gyfer bywyd gwyllt yn eu gerddi / ar eu tir, drwy ofyn am ymrwymiadau ar-lein i wneud gerddi yn fwy addas i fywyd gwyllt [add link to pledge page].

Diolch ichi am dreulio amser yn llenwi'r ffurflen hon.  Mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol iawn inni. Os ydych wedi gweld unrhyw fywyd gwyllt arall yn eich ardd, rhoddwch wybod inni drwy lenwi'r blwch 'unrhyw wybodaeth arall' ar ddiwedd yr arolwg.  Mae fersiwn pdf o'r ffurflen hon ar gael ichi ei hargraffu a'i hanfon yn ôl atom yn: Yr Adain Gadwraeth, 40 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LQ

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae adnabod bywyd gwyllt ein gerddi ar gael ar dudalennau bywyd gwyllt gerddi ar www.wildaboutgardens.org. I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg ffoniwch 01267 224653.

Bydd yr holl ffurflenni a ddaw i law erbyn 29ain Hydref 2010 yn cael eu cynnwys yn y raffl i ennill pecyn garddio bywyd gwyllt, sy'n cynnwys llyfr am arddio bywyd gwyllt, blwch nythu, a bwydwr adar, a roddwyd gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Yr Arolwg


Gwybodaeth amdanoch chi

Gwybodaeth am eich gardd

A yw eich gardd




A oes gennych? (Ticiwch os gwelwch yn dda)













A oes gennych gath? *

Gweithgareddau

A ydych chi'n defnyddio chwynladdwr neu wrtaith ar eich lawnt?
A ydych chi erioed wedi cael madarch lliwgar (pinc, coch neu felyn) yn tyfu ar eich lawnt?
A ydych chi'n defnyddio peledi lladd malwod?
A ydych chi'n defnyddio unrhyw ffurf arall ar reoli chwyn a thrychfilod?
A ydych yn bwydo adar drwy gydol y flwyddyn?
Yn ystod y gaeaf yn unig?
Yn ystod yr haf yn unig?

Beth ydych chi wedi ei weld yn eich gardd eleni? (ticiwch os gwelwch yn dda)

Adar



















Mamaliaid





Amffibiaid ac Ymlusgiaid




Ieir Bach yr Haf






 
Copyright © 2008 - | Built & maintained by Welsh Wildlife Photography

Carmarthenshire County Council

Countryside Council for Wales