|

Ditch management gets a helping hand at Ffrwd Farm Mire- Feb 2011
February has seen some significant work to open up ditches and create open water at our Ffrwd Farm Mire nature reserve near Pembrey, in south Carmarthenshire. The works form the first step in the delivery of a ditch management plan that had been drawn up to protect and enhance this crucial element of this beautiful wetland reserve.
Read more...
Hybu rheoli'r ffosydd yng Ngwarchodfa Natur Cors Fferm y Ffrwd - Chwefror 2011
Mae tipyn o waith wedi ei wneud ym mis Chwefror i agor ffosydd ac i greu llecynnau lle mae dŵr agored yng ngwarchodfa natur Cors Fferm y Ffrwd ger Pen-bre, yn ne Sir Gaerfyrddin. Y gwaith hwn yw'r cam cyntaf o ran gweithredu cynllun rheoli ffosydd sydd wedi ei lunio i ddiogelu ac i wella'r elfen hollbwysig hon o'r warchodfa brydferth hon sydd wedi ei lleoli ar wlyptir.
Read more...

Brown Hairstreak Butterfly Volunteers – hard at it again!
Butterfly Conservation’s Llangeler-based community project, which started in late January 2010, has now spread to several neighbouring villages including Pentrecwrt, Drefach, Felindre, Waungilwen, and Pentrecagal (and Henllan across the county boundary as well). This autumn/winter surveys have already added 48 new occupied fields, totalling 772 eggs – a fine average of 16 eggs per field. This has also included six new 1-km squares.
Read more...
Gwirfoddolwyr y Prosiect Brithribinau Brown yn ddyfal wrth eu gwaith!
Mae prosiect cymunedol Gwarchod Gloynnod Byw yn ardal Llangeler, a gychwynnodd ddiwedd Ionawr 2010, wedi ei helaethu bellach er mwyn cwmpasu nifer o bentrefi cyfagos gan gynnwys Pentre-cwrt, Dre-fach, Felindre, Waungilwen, a Phentrecagal (ynghyd â Henllan yng Ngheredigion). Yn sgil yr arolygon a gynhaliwyd yn ystod yr hydref/gaeaf ychwanegwyd 49 o gaeau newydd lle daethpwyd o hyd i gyfanswm o 778 o wyau – gan roi cyfartaledd rhagorol o 16 o wyau ym mhob cae. Hefyd ychwanegwyd chwech o sgwariau 1 cilometr newydd.
Read more...

Urban Bat Survey 2011 - become a bat detective!
Your help is needed! Do you:
-
Live in Llanelli, Burry Port/Pembrey or Carmarthen?
-
Want to help to find out more about bats in urban areas?
-
Have an hour or so to spare over three nights in the summer?
Read more...
Arolwg Ystlumod Trefol 2011 - beth am fod yn chwiliwr ystlumod!
Mae angen eich cymorth chi arnom ni! A ydych chi:
-
Yn byw yn Llanelli, Porth Tywyn/Pen-bre neu Gaerfyrddin?
-
Am helpu i grynhoi rhagor o wybodaeth am ystlumod mewn ardaloedd trefol?
-
Yn rhydd am ryw awr am dair noson yn ystod yr haf?
Read more...

Local Biodiversity Action Plan Report for 2010
LBAP Partners have been sending in updates for last year on their actions in Carmarthenshire’s BAP. The brief reports will be added to the national on-line reporting system – BARS – but have also been integrated into the action plans on the Carmarthenshire Biodiversity website – www.carmarthenshirebiodiversity.gov.uk
In 2011–12 we will continue to try and implement more actions in the plan – from survey and habitat management to raising awareness and education. Funding is being sought to remove buckthorn on the dunes at Pembrey, more barn owl boxes are being made and more surveys for dormice will be undertaken and boxes put up. The country parks are undertaking reptile surveys and an urban bat survey is being organised.
Some projects are on-going - the successful volunteer brown hairstreak surveys will continue and feeding of tree sparrows in the Tywi valley will be supported again next winter – both of these projects are having a direct benefit for the species in question.
In 2010–11 CCW funding enabled, amongst other things, mitigation for otters under a road near Llandeilo, a biodiversity gardening leaflet, a dormice project, a waxcap fungi project and events during Wales Biodiversity Week and habitat management at Delta Lake in Llanelli (see this newsletter). A report will put on to the Carmarthenshire Biodiversity website.
Read more...
Y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol - Adroddiad 2010
Mae Partneriaid y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol wedi bod yn anfon y wybodaeth ddiweddaraf am eu camau gweithredu yn ystod y llynedd o ran Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin. Bydd yr adroddiadau cryno yn cael eu hychwanegu at y System Adrodd ar Weithredu Bioamrywiaeth (BARS) ac yn cael eu cynnwys hefyd yn y cynlluniau gweithredu ar wefan Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin – www.carmarthenshirebiodiversity.gov.uk
Yn ystod 2011–12 byddwn yn dal i geisio rhoi rhagor o'r camau gweithredu yn y cynllun ar waith - gan amrywio o gynnal arolygon a rheoli cynefinoedd i gynyddu ymwybyddiaeth ac addysgu. Cyflwynir cais am gyllid i gael gwared â rhafnwydd y môr ar y twyni ym Mhen-bre, mae rhagor o flychau nythu yn cael eu gwneud ar gyfer tylluanod gwynion, a chynhelir rhagor o arolygon pathewod ynghyd â gosod rhagor o flychau ar eu cyfer. Mae'r parciau gwledig yn cynnal arolygon o ymlusgiaid, a threfnir arolwg ystlumod trefol.
Mae rhai o'r prosiectau yn parhau o flwyddyn i flwyddyn - bydd yr arolygon llwyddiannus gan wirfoddolwyr o frithribinau brown yn parhau, a bydd golfanod y mynydd yn dal i gael eu bwydo yn Nyffryn Tywi dros y gaeaf nesaf – gan fod y naill brosiect a'r llall o fudd uniongyrchol i'r rhywogaethau dan sylw.
Yn ystod 2010–11 bu i arian Cyngor Cefn Gwlad Cymru ein galluogi i wneud amrywiaeth o bethau gan gynnwys creu llwybr croesi i ddyfrgwn o dan ffordd ger Llandeilo, cyhoeddi taflen ynghylch garddio er hybu bioamrywiaeth, cynnal prosiect pathewod, prosiect capiau cwyr a digwyddiadau yn ystod Wythnos Bioamrywiaeth Cymru, a rheoli cynefin Llyn Delta yn Llanelli (gweler isod). Bydd adroddiad yn cael ei roi ar wefan Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin:
Read more...

Fringe benefits for Delta Lake, Llanelli
The Environment Agency Wales has created a new habitat at Delta Lake in Llanelli to benefit water voles and other wildlife. The work, which was completed earlier this month, involved installing ‘coir’ (coconut fibre) rolls along 220 m of the lake’s shoreline.
The coir rolls were pre-planted with reeds, irises and other freshwater plants which once established will provide food and shelter for invertebrates, mammals and birds on the lakes.
Over time the coir rolls will help build up silt along the shore as well as protect the banks from erosion, enabling a natural vegetated fringe to develop.
Read more...
Manteision ymylol i Lyn Delta, Llanelli
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi creu cynefin newydd ar lan Llyn Delta yn Llanelli er budd llygod pengrwn y dŵr a rhywogaethau eraill. Gosodwyd rholiau 'coir' (rhisgl coconyt) am 220 metr ar hyd glan y llyn, gan gwblhau'r gwaith yn gynharach y mis hwn.
Cyn i'r rholiau 'coir' gael eu gosod yr oedd cyrs, gellesg a phlanhigion dŵr croyw eraill wedi eu plannu ynddynt, ac ar ôl i'r planhigion hyn wreiddio a thyfu byddant yn fwyd ac yn gysgod i anifeiliaid di-asgwrn-cefn, mamaliaid ac adar.
Read more...

Otter (Lutra lutra) activity within the Carmarthen Bay and Estuaries special area of conservation
Summary taken with permission from the survey report commissioned by the Carmarthen Bay and Estuaries European Marine Site Relevant Authorities Group.
Investigations into otter activity, habitat availability, and threats were carried out at 20 coastal streams and 38 estuary streams within the Carmarthen Bay and Estuaries Special Area of Conservation over a 12-month period from August 2009. Signs of otter activity were found at 50% of the coastal streams and 76% of the estuary stream sites.
Read more...
Dyfrgwn (Lutra lutra) yn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Caerfyrddin a'i Aberoedd – Crynodeb o adroddiad
Cynhaliwyd ymchwiliadau i bresenoldeb dyfrgwn, i'r cynefin sydd ar gael iddynt ac i'r bygythiadau sydd iddynt ar hyd 20 o nentydd arfordirol a 38 o nentydd yr aberoedd yn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Caerfyrddin a'i Aberoedd dros y 12 mis o fis Awst 2009 ymlaen. Daethpwyd o hyd i arwyddion bod dyfrgwn ar 50% o'r nentydd arfordirol ac ar 76% o nentydd y aberoedd.
Digon bylchog yw'r cynefin sydd ar gael i ddyfrgwn a dim ond un safle magu posibl y daethpwyd o hyd iddo'n agos at y nentydd arfordirol, a daethpwyd o hyd i 10 ar nentydd yr aberoedd. Yn bennaf, prysgwydd, coetir a chorslwyni oedd y cynefinoedd ar gyfer safleoedd magu posibl. Safleoedd ar y ddaear oedd yr holl safleoedd posibl ar gyfer gwalau lle gallai geist esgor ar genawon, gan olygu y gellid tarfu neu ymosod arnynt.
Read more...

A Living Wales – Summary of Consultation Responses
The A Living Wales consultation was launched on 15th September 2010 and was open for responses until 31st December 2010. This consultation was the second most popular Assembly consultation in 2010, attracting around 6600 views and almost 3000 visits. The consultation document was downloaded over 1200 times during the consultation period. WAG received 180 responses to the consultation ranging from short email messages to documents with multiple annexes.
As might be anticipated, the majority of response came from individuals and conservation organisations, with a reasonable number from forestry, countryside and landscape organisations. Responses were received from approximately half of local authorities in Wales, with a small number of responses from a wide range of other organisations.
Although attempts were made to reach a wide variety of sectors, it seems clear that WAG’s engagement of commerce and industry has been limited so far.
The response to Living Wales can be found at: www.wales.gov.uk/livingwales/ www.Cymru.gov.uk/cymrufyw
Read more...
Cymru Fyw – Crynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad
Cychwynnwyd ymgynghori ynghylch Cymru Fyw ar 15fed Medi 2010 a hynny tan 31ain Rhagfyr 2010. Yr ymgynghoriad hwn oedd yr un ail fwyaf poblogaidd gan y Cynulliad yn 2010, gan ddenu rhyw 6600 o ddarlleniadau a bron 3000 o ymweliadau. Llwythwyd y ddogfen ymgynghori fwy na 1200 o weithiau yn ystod y cyfnod ymgynghori. Cafodd Llywodraeth Cynulliad Cymru 180 o ymatebion, gan amrywio o negeseuon e-bost byrion i ddogfennau ag atodiadau.
Fel yr oeddid yn ei ddisgwyl, unigolion a mudiadau cadwraethol oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr, ynghyd â nifer rhesymol o ymatebion gan gyrff a mudiadau coedwigaeth a chefn gwlad. Cafwyd ymatebion gan tua hanner awdurdodau lleol Cymru, ynghyd â nifer bychan o ymatebion gan amrywiaeth eang o gyrff a mudiadau eraill.
Er bod ymdrech i gyrraedd amrywiaeth eang o sectorau, yn ôl pob golwg cyfyng fu ymwneud Llywodraeth Cynulliad Cymru â meysydd masnach a diwydiant hyd yn hyn.
Gellir darllen yr ymatebion i Gymru Fyw drwy gael golwg ar y wefan ganlynol: www.Cymru.gov.uk/cymrufyw/ www.wales.gov.uk/livingwales
Read more...

|