|

Yellow bird’s nest gets a helping hand from Coleg Sir Gâr students
Simeon Jones, MCP Ranger
Students studying for the Welsh Baccalaureate spent 3 days in early spring sunshine in March carrying out practical conservation management tasks in the Millennium Coastal Park. One of the tasks that they helped with was to create suitable habitat for the rare plant, yellow bird’s nest (Monotropa hypotitys; cytwf in Welsh) in Burry Port Woodlands.
The students were shown a picture of the plant which flowers in June and ecology of yellow bird’s-nest was discussed. It is parasitic on the roots of grey willow (Salix cinerea) but interestingly a fungus is also involved – girdled knight (Tricholoma cingulatum). The tree provides carbon to the fungus and plant and gets minerals in return from the fungus. It has also recently been found that the fungus may show more vigorous growth in the presence of yellow bird’s nest, hence it may not be all one way! However, yellow bird’s nest will only grow in the presence of the fungus hence it is important to safeguard this rare plant along with the fungus.
Recent work has been undertaken with funding from Better Woodlands for Wales to create coups in the wood to provide a more uneven age structure in the woodland. Over time the presence of Tricholoma seems to decline for some reason hence it is important to conserve this fungus in the woodland and hence the yellow bird’s nest. It is thought that the fungus is associated with younger Salix growth, hence the coups should help as young Salix naturally regenerates.
To help this process the students removed some of the carpet of ivy covering the coups. This should also encourage other woodland flowers to develop. Once this had been achieved shoots of Salix were planted in the coups to kick start the regeneration.
This former industrial site is an example of how Nature can soon regain its foothold to provide a high- quality aesthetic landscape. However these sites need to be looked after and managed appropriately and thanks are extended to the students, Mencap, Keep Wales Tidy and Tidy Towns who all contributed to the work.
Cytwf yn cael help llaw gan fyfyrwyr Coleg Sir Gâr
Simeon Jones, MCP Ranger
Treuliodd myfyrwyr sy'n dilyn cwrs Bagloriaeth Cymru 3 diwrnod yn heulwen y gwanwyn cynnar ym mis Mawrth yn gwneud tasgau cadwraeth ymarferol ym Mharc Arfordirol y Mileniwm. Un o'r tasgau hynny oedd helpu i greu cynefin addas i blanhigyn prin iawn, sef cytwf (Monotropa hypotitys), yng Nghoetir Porth Tywyn.
Dangoswyd llun i'r myfyrwyr o'r planhigyn hynod hwn, sy'n blodeuo ym mis Mehefin, a thrafodwyd ei ecoleg. Planhigyn parasitig yw cytwf sy'n tyfu ar wreiddiau helyg llwyd (Salix cinerea) ond yn ddiddorol ddigon mae ffwng, sef (Tricholoma cingulatum), yn gysylltiedig hefyd â hyn. Mae'r ffwng a'r planhigyn yn cael carbon gan y goeden, ac mae'r goeden yn ei thro yn cael mwynau gan y ffwng. Hefyd gwelwyd yn ddiweddar fod posibilrwydd fod y ffwng yn tyfu'n gryfach yng ngŵydd cytwf, felly mae'n bosibl nad yw perthynas y naill â'r llall yn gwbl unffordd! Fodd bynnag, ni thyf cytwf heb fod yng ngŵydd y ffwng felly mae'n bwysig diogelu'r planhigyn prin hwn ochr yn ochr â'r ffwng.
Gwnaed gwaith yn ddiweddar, a hynny yn sgil cael cyllid gan Goetiroedd Gwell i Gymru, er mwyn creu llecynnau wedi eu clirio fan hyn fan draw yn y coetir, gyda golwg ar sicrhau bod strwythur oedran mwy anwastad yn y coetir. Ymddengys bod presenoldeb Tricholoma yn lleihau dros gyfnod am ryw reswm neu'i gilydd, felly mae'n bwysig gwarchod y ffwng hwn yn y coetir a thrwy hynny warchod cytwf. Credir bod y ffwng yn gysylltiedig â thwf helyg ifanc, felly dylai'r gwaith a wnaed yn y coetir fod o gymorth wrth i'r helyg aildyfu'n naturiol.
Er mwyn rhoi hwb i'r broses hon bu'r myfyrwyr yn gwaredu rhywfaint o'r iorwg oedd yn drwch yn y llecynnau hynny. Hefyd dylai'r gwaith fod o fudd i flodau eraill sy'n tyfu mewn coetiroedd. Ar ôl cwblhau'r gwaith hwnnw plannwyd gwiail helyg yn y llecynnau er mwyn rhoi hwb i'r aildyfiant.
Mae'r hen safle diwydiannol hwn yn enghraifft o sut y gall natur ailfeddiannu darn o dir ymhen dim o dro gan roi bod i dirwedd sy'n werth ei gweld. Fodd bynnag mae'n rhaid gofalu am safleoedd o'r fath a'u rheoli mewn modd priodol, a mawr yw'r diolch i'r myfyrwyr, Mencap, Cadwch Gymru'n Daclus, a Threfi Taclus am gyfrannu at y gwaith.

Dormice - work with volunteers
This winter valuable work to help dormice in the county has been carried out with the help of grant funding from the Countryside Council for Wales via the Environment Partnership of the county’s Community Strategy. The Wildlife Trust of South and West Wales (WTSWW) and volunteers have planted up a gappy hedgerow to provide dormice with valuable habitat and help link up existing habitats and local dormouse ecologist, Jacqueline Hartley, with the help of volunteers, have erected dormouse boxes and nest tubes at key sites, which will be monitored.
Llyn Llech Owain Country Park had records of dormice on site and a habitat assessment was undertaken by Jacqueline in order to site the dormouse boxes within the most suitable habitat. Fifty dormouse boxes were then erected within these woodland areas near the existing dormouse records. Five volunteers and two of the Llyn Llech Owain wardens helped out.
Carmel National Nature reserve is another site where there have been records of dormouse found recently. Dormice feed on hazelnuts and leave distinctive marks on the chewed nuts and this is a good way of establishing their presence.
They also like scrub and bramble and the most suitable habitat with the most significant areas of dense scrub and bramble were located and 50 dormouse boxes were erected in the western half of the Carmel reserve with three volunteers and the warden. In addition 50 dormouse tubes were erected in suitable hedgerows. Dormice will use the tubes to make nests in and so this is another way of establishing their presence on a site.
During both visits the rangers and volunteers were shown how to erect dormouse boxes and tubes and the habitat requirements and ecology of dormice were discussed. One of the wardens from Llyn Llech Owain, one from Carmel NNR and a volunteer at both sites will undertake training to obtain a dormouse licence to enable them to monitor the boxes and tubes that have been erected.
The WTSWW undertook some hedgerow restoration at a site to provide a key local habitat linkage for dormice close to Wildlife Trust’s Rhos Cefn Bryn nature reserve near Llannon. The hedgerow had been reduced to a line of fairly mature oak trees, offering poor structure and very limited resource to dormice. The base of the hedge was open to fairly heavy grazing by livestock (ponies) and so no young tree or shrub growth was possible. The hedgebank was fenced and the gaps planted up with locally typical hedgerow species (hazel and blackthorn). Hopefully this will in a few years time proved additional habitat for dormice and provide useful connectivity in an area important for dormice.
A Facebook page called Carmarthenshire Dormice has been set up to connect all those interested in dormice within the county and within the South-West Wales area as a whole.
Pathewod - gwaith gan wirfoddolwyr
Mae gwaith gwerthfawr wedi ei wneud yn ystod y gaeaf diwethaf er mwyn rhoi hwb i bathewod yn y sir, a hynny gydag arian grant gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru drwy gyfrwng Partneriaeth yr Amgylchedd sy'n elfen o Strategaeth Gymunedol y sir. Bu Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru gyda chymorth gan wirfoddolwyr yn plannu coed mewn perth fylchog er mwyn darparu cynefin addas i bathewod ac er mwyn helpu i gysylltu’r cynefinoedd presennol. Mae Jacqueline Hartley (ecolegydd lleol sy'n arbenigo ar bathewod), gyda chymorth gan wirfoddolwyr, wedi bod yn gosod blychau a thiwbiau nythu i bathewod mewn safleoedd allweddol, a bydd y rhain yn cael eu monitro.
Roedd y cofnodion yn dangos bod pathewod ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain felly cynhaliodd Jacqueline asesiad cynefin o'r safle er mwyn sicrhau bod blychau i bathewod yn cael eu lleoli yn y cynefin mwyaf addas. Yna gosodwyd hanner cant o flychau yn y coetiroedd oedd yn agos i'r mannau hynny lle'r oedd y cofnodion yn dangos bod pathewod yn bresennol. Bu pump o wirfoddolwyr a dau o wardeiniaid Llyn Llech Owain yn cynorthwyo â'r gwaith hwn.
Safle arall lle cofnodwyd pathewod yn ddiweddar yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel. Mae pathewod yn bwydo ar gnau cyll. Gan fod pathewod yn naddu'r masgl â'u dannedd mewn modd unigryw er mwyn gallu cael y gneuen, mae chwilio am fasgl sydd ag olion dannedd pathewod yn ffordd dda o wybod a yw pathewod yn bresennol mewn llecyn.
Gan eu bod yn hoffi prysgwydd a mieri hefyd, chwiliwyd am y cynefin mwyaf addas lle'r oedd llecynnau helaeth o brysgwydd a mieri. Felly aeth y warden a thri gwirfoddolwr ati i osod 50 o flychau i bathewod yn hanner gorllewinol gwarchodfa Carmel. Yn ogystal gosodwyd 50 o diwbiau nythu mewn perthi addas. Gan taw'r gobaith yw y bydd pathewod yn nythu yn y tiwbiau hyn, mae hon yn ffordd arall o sefydlu a ydynt yn bresennol ar safle.
Yn ystod y ddau ymweliad dangoswyd i'r wardeiniaid a'r gwirfoddolwyr sut oedd gosod y blychau a'r tiwbiau, a thrafodwyd ecoleg pathewod a'u gofynion o ran cynefin. Bydd un o wardeiniaid Llyn Llech Owain, un o wardeiniaid Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel, ynghyd â gwirfoddolwr o'r naill safle a'r llall safle, yn derbyn hyfforddiant i'w galluogi i gael trwydded i drafod pathewod fel eu bod yn gallu monitro'r blychau a'r tiwbiau a osodwyd.
Bu Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn gwneud rhywfaint o waith yn adfer perth ar safle ger gwarchodfa natur yr Ymddiriedolaeth Natur yn Rhos Cefn Bryn yng nghyffiniau Llannon, a hynny er mwyn darparu cynefin cyswllt allweddol i bathewod. Yr hyn oedd yn weddill o'r hen berth oedd rhesaid o goed deri a oedd bron â chyrraedd eu llawn dwf a phrin oedd yr adnoddau i bathewod. Gan fod bôn y berth yn cael ei bori'n grop gan ferlod nid oedd modd i goed na llwyni dyfu o'r newydd. Gosodwyd ffens ar hyd y clawdd a phlannwyd rhywogaethau a oedd yn nodweddiadol o berthi lleol (cyll a draenen ddu). Y gobaith yw y bydd y berth hon yn gynefin ychwanegol i bathewod ymhen ychydig flynyddoedd ac yn llwybr cyswllt defnyddiol mewn ardal sy'n bwysig i bathewod.
Mae tudalen Facebook o'r enw Pathewod Sir Gaerfyrddin (Carmarthenshire Dormice) wedi ei sefydlu er mwyn cysylltu'r holl bobl yn y sir, yn ogystal ag yn Ne-orllewin Cymru, sydd â diddordeb mewn pathewod.

Cardiff University Otter Project (from their newsletter)
Cardiff University Otter Project is a national scheme collecting otters found dead in England and Wales for post mortem examination, managed in collaboration with the Environment Agency. The project was established in 1992 with the aim of using tissues collected from this top predator to monitor aquatic contamination. The opportunities presented by national collection of a European protected species are considerable, and while contaminant monitoring remains a key aspect of the project, a wide diversity of additional research is now undertaken under the umbrella of CUOP. In addition, the location of mortality incidents has been used to guide mitigation on roads, reducing the number of future casualties.
Populations declined dramatically in the 1950–70s and disappeared from most of England. Declines were probably related to the use of endocrine disrupting chemicals (EDCs). Recovery started after legislation restricted/banned many EDCs, in addition to other conservation legislation and improvements in water quality.
So far 1908 otters have been received by the project for post mortem and the cause of death has been: road traffic accident 85%, other 15%. Of the other causes of death the most common remain drowning and juvenile abandonment. Multiple incidents of otters drowning in crayfish traps have been noted over the past few years, and the project is promoting the use of otter guards to traps. These results mean that the Eurasian otter is still categorised as ‘near-threatened’ on IUCN red list.
The project has recently updated the projects website (www.otterproject.cf.ac.uk), complete with new interactive map of otter casualties. You can check the map to see otters found in Carmarthenshire. The project is currently undertaking an analysis of mortality ‘hotspots’ in Wales, using combined Environment Agency and CUOP datasets in order to produce reports for the three welsh Trunk Road Agencies, who are kindly funding the work.
In Carmarthenshire otters are likely present or pass along all our watercourses. The Council’s Conservation section has worked with Highways to install a number of dry culverts/ledges to help otters in known blackspots.
Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd (O lythyr newyddion y prosiect)
Cynllun cenedlaethol ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd yw Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd sy'n casglu cyrff dyfrgwn y daethpwyd o hyd iddynt yn farw yng Nghymru a Lloegr er mwyn cynnal archwiliadau post-mortem arnynt. Sefydlwyd y prosiect ym 1992 gyda golwg ar gadw llygad ar lygredd mewn dyfroedd drwy astudio meinwe a gasglwyd o'r creadur ysglyfaethus hwn sydd ar frig y gadwyn fwyd. Mae meddu ar gasgliad cenedlaethol mewn perthynas â rhywogaeth a warchodir gan ddeddfwriaeth Ewrop yn rhoi bod i gyfleoedd di-rif, ac er bod monitro llygredd yn dal i fod yn un o'r prif agweddau ar y prosiect, bellach cynhelir amrywiaeth eang o waith ymchwil ychwanegol o dan fantell Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal mae'r wybodaeth sydd wedi ei chasglu am leoliadau'r cyrff wedi ei defnyddio i lunio camau lliniaru ar ffyrdd, er mwyn ceisio lleihau niferoedd y dyfrgwn sy'n cael eu lladd ar y ffyrdd yn y dyfodol.
Bu i niferoedd dyfrgwn leihau'n aruthrol yn ystod y 1950–70au a bu i'r rhywogaeth ddiflannu'n llwyr o'r rhan fwyaf o Loegr. Y rheswm tebygol dros y dirywiad oedd y defnydd o fath arbennig o gemegolion a elwir yn ymyrwyr endocrin (EDCs). Dechreuodd yr adfywiad ar ôl cael deddfau oedd yn sicrhau bod gwaharddiad/cyfyngu ar ddefnyddio nifer o ymyrwyr endocrin ac yn sgil cael deddfau eraill ym maes cadwraeth a gwelliannau o ran ansawdd dyfroedd.
Hyd yn hyn mae'r prosiect wedi cael 1908 o gyrff dyfrgwn i'w harchwilio, a gwelwyd eu bod wedi marw oherwydd: damweiniau ffordd (85%), rhesymau eraill (15%). Boddi a chenawon yn cael eu gadael yn ddiymgeledd yw'r achosion marwolaeth mwyaf cyffredin yng nghategori'r rhesymau eraill. Dros y blynyddoedd bu nifer o achosion o ddyfrgwn yn boddi mewn cewyll cimychiaid yr afon, ac mae'r prosiect yn hyrwyddo addasu cewyll fel nad oes modd i ddyfrgwn gael eu dal ynddynt. Dengys y canlyniadau hyn fod y dyfrgi yn dal i fod ‘dan fygythiad difrifol' ar restr goch yr IUCN.
Diweddarodd y prosiect ei wefan (www.otterproject.cf.ac.uk) yn ddiweddar ynghyd â chynnwys map rhyngweithiol newydd o'r mannau y daethpwyd o hyd i gyrff dyfrgwn. Gallwch gael golwg ar y map i weld ymhle y daethpwyd o hyd i ddyfrgwn marw yn Sir Gaerfyrddin. Ar hyn o bryd mae'r prosiect yn cynnal dadansoddiad o'r mannau yng Nghymru lle bu nifer o farwolaethau, gan ddefnyddio data Asiantaeth yr Amgylchedd a Phrosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd ar y cyd er mwyn llunio adroddiadau i'r tair Asiantaeth Cefnffyrdd yng Nghymru, sydd wedi bod yn ddigon caredig i gyllido'r gwaith.
Yn Sir Gaerfyrddin mae dyfrgwn yn debygol o fod yn bresennol yn ein holl ddyfroedd neu o deithio ar hyd-ddynt. Mae Adain Gadwraeth y Cyngor wedi bod yn cydweithio â'r Is-adran Briffyrdd i osod nifer o gwlferi sych/silffoedd er mwyn ceisio diogelu dyfrgwn yn y mannau hynny lle gwyddys bod nifer o ddyfrgwn wedi cael eu diwedd.

Practical squirrel conservation (from MISE newsletter)
In February this year a group of A-level students and staff from Amman Valley School spent the day with the Mammals in a Sustainable Environment (MISE) project planting trees and putting up nest boxes to benefit the red squirrels in the Tywi forest in mid Wales. Students at the school are growing lodgepole pine and Scot’s pine from seed, as part of their horticulture course. They have chosen to grow these species specifically because they provide a good food source for red squirrels. Students at Amman Valley are also building wooden nest boxes and squirrel feeders for the MISE project.
The MISE project was launched in May 2011 as a partnership between Waterford Institute of Technology, Waterford County Council and the National Biodiversity Data Centre in Ireland and The Vincent Wildlife Trust, Countryside Council for Wales and Snowdonia National Park Authority in Wales.
The project is part funded by the European Regional Development Fund under the Ireland-Wales Programme 2007-2013 (INTERREG IVA) and aims to raise awareness of mammal conservation in Ireland and Wales through providing training in field survey methods and involving volunteers in mammal survey and monitoring. New survey and monitoring methods are being developed using DNA from non-invasive samples, such as hair and scats.
If you would like to find out more about the project contact Jenny MacPherson: jennymacpherson@vwt.org.uk or take a look at the project website: www.miseproject.ie and even
follow MISE on Facebook!
Camau ymarferol i warchod gwiwerod (O lythyr newyddion MISE)
Ym mis Chwefror eleni treuliodd grŵp o fyfyrwyr lefel A a staff o Ysgol Dyffryn Aman y diwrnod yng nghwmni staff prosiect Mammals in a Sustainable Environment (MISE) pryd y cawsant gyfle i blannu coed a gosod blychau nythu er budd gwiwerod coch yng Nghoedwig Tywi yng Nghanolbarth Cymru. Mae'r myfyrwyr yn tyfu pinwydd camfrig a phinwydd yr Alban o had fel rhan o'u cwrs garddwriaeth yn yr ysgol. Maent wedi dewis tyfu'r rhywogaethau hyn yn benodol am eu bod yn ffynonellau bwyd i wiwerod coch. Hefyd mae'r myfyrwyr yn Ysgol Dyffryn Aman yn gwneud blychau nythu a bwydwyr gwiwerod ar gyfer prosiect MISE.
Lansiwyd prosiect MISE ym mis Mai 2011 ar ffurf partneriaeth rhwng Waterford Institute of Technology, Waterford County Council a'r National Biodiversity Data Centre yn Iwerddon, ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yng Nghymru.
Mae'r prosiect yn cael ei gyllido'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop o dan Raglen Iwerddon - Cymru 2007-2013 (INTERREG IVA). Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o gadwraeth mamaliaid yn Iwerddon a Chymru drwy ddarparu hyfforddiant o ran dulliau arolygu yn y maes a thrwy gael gwirfoddolwyr i fod yn gysylltiedig â gwaith arolygu a monitro mamaliaid. Mae dulliau arolygu a monitro newydd yn cael eu datblygu trwy ddefnyddio DNA o samplau rhwydd eu cael, megis blew a thail gwiwerod.
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â Jenny MacPherson: jennymacpherson@vwt.org.uk neu fwrw golwg ar wefan y prosiect: www.miseproject.ie neu ddilyn MISE ar Facebook hyd yn oed!

Habitat management at the National Wetland Centre Wales
Dominic Carmichael
At the WWT National Wetland Centre Wales this year the focus has been some significant habitat management on the reserve and the establishment of a new monitoring programme.
Work began in late January with a grant from Cwm Environmental on phase one of a 3- year programme to remove and manage trees on the Millennium Wetland reserve. When the reserve was designed and developed in the late 1990s the aim had been to create a series of wetland habitats within an overall landscape which felt open and linked to the estuary visually. There was also to be an easy flight path for migratory birds to move from one place to the other. The open landscape would also be of benefit to waders such as lapwing, of which 30 or so pairs would nest here when the reserve was first developed.
In addition the abundance of plenty of lush vegetation growing on the slowly sloping banks of ditches and ponds throughout the reserve has, up to now, maintained and increased an already healthy population of the highly threatened water vole for which this is one of the UK Key Sites.
So why the need for tree management? As well as an open landscape being created back in the year 2000, many thousands of trees were planted. A high survival rate and 12 years of growth has meant that many of the sight lines and flight paths have been blocked and obscured. This, coupled with willow and alder trees moving in as a part of the natural succession, which is a feature of any wetland, has meant that the site is less attractive for some species. In the case of lapwing, for example, numbers of nesting pairs have dropped down to a handful. Trees harbour crows which make the lapwing vulnerable to predation. For the water vole, the bank side vegetation – food source and shelter – has become increasingly shaded out. Hence the tree felling and management, the impact of which you will see next time you visit.
And the monitoring? The wetland centre has recently bought a salinity meter with grant aid from CCW. Twelve monitoring points have been established round the recently restored saline lagoon on the edge of the saltmarsh. The aim is to be able to maintain a salinity of between of 5 and 25 parts per thousand. This we can do by, if necessary, diluting with a fresh water supply the sea water brought in by the tide. This level of salinity provides the conditions in which invertebrates specialising in these saline lagoon conditions will flourish – which is all good news for the summer and winter bird which use the lagoon for feeding on.
Rheoli cynefinoedd yng Nghanolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru
Dominic Carmichael
Eleni mae'r sylw yng Nghanolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru (Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir) wedi ei hoelio ar wneud tipyn o waith rheoli cynefinoedd yn y warchodfa ac ar sefydlu rhaglen fonitro newydd.
Dechreuodd y gwaith ddiwedd Ionawr yn sgil cael grant gan Cwm Environmental. Y cam cyntaf yn y rhaglen 3 blynedd yw gwaredu coed, ynghyd â rheoli'r coed sy'n weddill, yng ngwarchodfa Gwlyptir y Mileniwm. Adeg dylunio a datblygu'r warchodfa ar ddiwedd y 1990au y nod oedd creu cyfres o gynefinoedd gwlyptir mewn tirwedd agored a oedd yn gysylltiedig â'r aber yn weledol. Hefyd byddai yno lwybr hedfan hwylus i adar mudol symud o le i le. Ar ben hynny byddai'r dirwedd agored o fudd i rydwyr megis cornicyllod; yn wir byddai rhyw 30 o barau ohonynt yn nythu yno ar ôl i’r warchodfa gael ei datblygu.
Hyd yn hyn mae'r llystyfiant toreithiog sy'n tyfu ar lannau'r ffosydd a'r pyllau ledled y warchodfa wedi bod yn gartref i laweroedd o lygod pengrwn y dŵr. Roedd poblogaeth gref o'r mamaliaid prin hyn ar y safle eisoes ond bellach mae'r niferoedd wedi cynyddu gan beri bod y safle yn un o'r Safleoedd Allweddol ym Mhrydain ar gyfer y rhywogaeth hon sydd dan fygythiad enbyd.
Felly pam y mae angen rheoli'r coed? Yn ogystal â chreu tirwedd agored yn 2000, plannwyd miloedd lawer o goed. Yn sgil bod cynifer o'r coed hynny wedi gwreiddio ac yna wedi tyfu'n gryf am 12 mlynedd, mae llawer o'r llinellau gweld a'r llwybrau hedfan wedi eu tagu ac wedi mynd o'r golwg. Ar ben hynny, ac yn elfen o'r drefn naturiol sy'n nodweddu unrhyw wlyptir, mae helyg a gwern yn tyfu yno erbyn hyn gan beri bod y safle'n llai atyniadol i rai rhywogaethau. Er enghraifft yn achos y cornicyllod dim ond dyrnaid o barau sy'n nythu yno bellach. Hefyd mae coed yn denu brain sy'n dal ar eu cyfle i fwydo ar wyau a chywion cornicyllod. Yn achos llygod pengrwn y dŵr mae'r llystyfiant ar lannau'r ffosydd a'r pyllau - sy'n ffynhonnell fwyd ac yn lloches iddynt - yn cael ei gysgodi fwyfwy gan goed. Ac felly dyna'r rhesymau dros y rhaglen torri coed a rheolaeth, y byddwch yn sylw ar ei heffaith y tro nesaf yr ymwelwch â'r safle.
A beth am y monitro? Yn ddiweddar mae'r ganolfan wedi prynu mesurydd halltedd yn sgil cael grant gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Sefydlwyd deuddeg o fannau monitro o amgylch y lagŵn heli sydd wedi ei adfer yn ddiweddar ar gwr y morfa heli. Y nod yw gallu cynnal lefel halltedd rhwng 5 a 25 rhan ymhob mil. Pan fo angen gallwn wanhau'r halltedd yn y dŵr heli sy'n cael ei adael yn y lagŵn gan y llanw a hynny drwy beri i gyflenwad o ddŵr croyw lifo i'r lagŵn. Mae'r lefel halltedd hon yn rhoi bod i'r amgylchiadau delfrydol i'r anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy'n ffynnu mewn lagwnau heli - ac mae hynny'n newyddion rhagorol i'r holl adar sy'n bwydo yn y lagŵn yn yr haf ac yn y gaeaf.

|